Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 303(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
offerynnau STATUdol cymru drafft
2014 Rhif (Cy. )
cynllunio gwlad a thref, cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio a wneir o dan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer esemptiad rhag ffioedd mewn perthynas â darparu mynedfa i dŷ annedd neu mewn tŷ annedd ar gyfer person anabl. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer esemptiad rhag ffioedd mewn achosion penodol lle mae hawliau datblygu a ganiateir wedi eu tynnu’n ôl.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 303(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
offerynnau STATUdol cymru drafft
2014 Rhif (Cy. )
cYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad
a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru)
2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio) a wneir ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cais gan ddeiliad aelwyd” (“householder application”) yw cais am newid caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â datblygu tŷ annedd presennol, neu â datblygiad yng nghwrtil tŷ annedd o’r fath at unrhyw ddiben sy’n atodol i fwynhau’r tŷ annedd ond nid yw’n cynnwys cais am newid defnydd na chais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995([2]);
ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir fel un annedd breifat ac nid at unrhyw ddiben arall.
Ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio
3.—(1)(1) Pan wneir cais o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990
(pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd
cynllunio) rhaid talu’r ffi a ganlyn i’r awdurdod
cynllunio lleol—
(a) os cais gan ddeiliad aelwyd yw’r cais, £25;
(b) mewn unrhyw achos arall, £83.
(2) O ran yr awdurdod cynllunio lleol sy’n derbyn y ffi yn unol â’r rheoliad hwn—
(a) pan nad ef yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu ar y cais; a
(b) pan fydd yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod hwnnw,
rhaid iddo drosglwyddo’r ffi i’r awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.
(3) Rhaid i unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei had-dalu os gwrthodir y cais am nad yw’n ddilys.
Ceisiadau nad oes ffi ar eu cyfer: mynedfeydd
4.—(1)(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod
cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn
ymwneud â’r canlynol yn unig—
(a) cyflawni gweithrediadau i addasu neu ymestyn tŷ annedd presennol; neu
(b) cyflawni gweithrediadau (heblaw codi tŷ annedd) yng nghwrtil tŷ annedd presennol,
yn y naill achos neu’r llall er mwyn darparu mynedfa i’r tŷ annedd neu yn y tŷ annedd i berson anabl sy’n preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu sy’n bwriadu dechrau preswylio ynddo, neu er mwyn darparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gyfforddusrwydd i’r person hwnnw.
(2) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau er mwyn darparu mynedfa i bersonau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir y cyhoedd iddynt (am dâl neu fel arall) neu mewn adeilad neu fangre o’r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person anabl” yw—
(a) person sydd o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau o bersonau y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([3]) yn gymwys iddynt; neu
(b) plentyn sy’n anabl at ddibenion Rhan III o Ddeddf Plant 1989([4]).
Ceisiadau nad oes ffi ar eu cyfer: datblygiad a ganiateir
5.—(1)(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fo’r awdurdod
cynllunio lleol y gwneir y cais iddo wedi ei
fodloni—
(a) bod y cais yn ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 yn unig; a
(b) nad yw’r caniatâd a roddwyd gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys o ran y datblygiad hwnnw oherwydd y canlynol (ac oherwydd y canlynol yn unig)—
(i) cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y cais; neu
(ii) gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 heblaw drwy’r Gorchymyn hwnnw.
(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at gais sy’n ymwneud â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1995 i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cais am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio i barhau â defnydd tir, neu i gadw adeiladau neu waith, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol odano, pan fo’r amod o dan sylw yn gwahardd cyflawni unrhyw ddatblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau hynny neu’n cyfyngu ar gyflawni datblygiad o’r fath.
Enw
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
([1]) 1990 p. 8; rhoddwyd is-adrannau (1), (2) a (2A) o adran 303 yn lle is-adrannau (1) a (2) fel y’u deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) adran 53(1) a (2). Ceir diwygiadau eraill i adran 303 ac i weddill Deddf 1990 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.